Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eithrio o'ch pensiwn y gweithle

Gallwch eithrio o gynilo yn y pensiwn y gweithle rydych wedi'i gofrestru ar ei gyfer. Mynnwch wybod sut i eithrio, beth sy'n digwydd i'ch cyfraniadau pensiwn a sut i ailymuno â'r cynllun.

Eithrio o'r cynllun

Pan fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru ar gyfer cynllun pensiwn y gweithle, gallwch eithrio ohono os byddwch am wneud hynny. Er mwyn eithrio, rhaid i chi gysylltu â’r bobl sy'n cynnal eich cynllun pensiwn a byddant yn gallu dweud wrthych sut i eithrio ohono. Bydd eich cyflogwr yn rhoi ei fanylion cyswllt i chi.

Os byddwch yn eithrio cyn dyddiad terfyn penodol, ni fyddwch yn dod yn aelod o gynllun pensiwn y gweithle. Caiff unrhyw daliadau y byddwch eisoes wedi'u gwneud eu had-dalu. Bydd eich cyflogwr yn eich hysbysu o'r dyddiad terfyn.

Atal eich taliadau

Os byddwch yn dechrau cynilo i bensiwn y gweithle ond yn penderfynu'n ddiweddarach eich bod am atal eich taliadau, gallwch wneud hynny. Fwy na thebyg y byddai eich cyflogwr yn atal ei daliadau hefyd. Er mwyn cael gwybod a fyddai eich cyflogwr yn atal ei daliadau hefyd, darllenwch wybodaeth y cynllun pensiwn. Mewn rhai sefyllfaoedd, byddai'r taliadau rydych eisoes wedi'u gwneud yn aros yn eich pensiwn, a byddwch yn eu cael pan fyddwch yn ymddeol.

Mewn sefyllfaoedd eraill, gellir ad-dalu'r taliadau hyd at derfyn o ddwy flynedd. Mae'r llywodraeth wrthi'n adolygu pa un a fydd yr ad-daliadau hyn yn bodoli yn y dyfodol. Caiff y dudalen hon ei diweddaru os bydd angen.

Ailymuno â'r cynllun

Os byddwch yn penderfynu eich bod am ddechrau talu i mewn i gynllun pensiwn y gweithle eich cyflogwr eto, gallwch wneud hynny. Bydd angen i chi ysgrifennu at eich cyflogwr i ofyn am gael eich cofrestru. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr eich aildderbyn i'w bensiwn y gweithle unwaith yn ystod pob cyfnod o ddeuddeg mis. Mae hynny'n golygu os byddwch yn gadael, yn ailymuno, wedyn yn gadael eto o fewn deuddeg mis, nad oes yn rhaid i'ch cyflogwr eich derbyn eilwaith. Ond gall ddewis gwneud hynny.

Cael eich ailgofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle

Os byddwch yn eithrio o bensiwn y gweithle neu'n atal eich taliadau, bydd eich cyflogwr yn awtomatig yn eich ailgofrestru ar gyfer ei bensiwn yn ddiweddarach. Fel arfer gwneir hyn bob tair blynedd. Gwneir hyn am ei bod yn bosibl y bydd eich amgylchiadau wedi newid a bod yr amser yn iawn i chi ddechrau cynilo. Bydd eich cyflogwr yn cysylltu â chi a gallwch ddewis aros ym mhensiwn y gweithle neu eithrio ohono.

Lleihau eich taliadau

Mae'n bosibl y byddwch yn gallu lleihau eich cyfraniadau i'ch pensiwn y gweithle. Gellir gwneud hyn os bydd rheolau eich cynllun pensiwn yn caniatáu i chi wneud hynny ac os bydd eich cyflogwr yn cytuno. Fel arfer, dim ond am gyfnod byr y caniateir i chi wneud hyn. Os byddwch am wneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â phwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn.

Os byddwch yn lleihau eich cyfraniad, mae'n bosibl y byddwch yn talu llai na'r isafswm sy'n ofynnol gan safonau newydd y llywodraeth. Os felly, mae'r llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i'ch cyflogwr gynyddu eich cyfraniadau i'r isafswm ar ôl cyfnod penodol. Os bydd hyn yn digwydd a'ch bod am leihau eich cyfraniad eto, byddai angen i chi wneud ail gais.

Gellir cael gwybodaeth am y cyfraniadau gofynnol yn 'Beth i'w ddisgwyl gan eich cyflogwr a'ch pensiwn y gweithle'.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU