Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Nid ydych yn siŵr a yw pensiwn gweithle yn iawn i chi

Bydd eich sefyllfa yn dylanwadu ar y ffordd y gall pensiwn gan eich cyflogwr fod o fudd i chi neu pa un a oes angen i chi eithrio. Mynnwch wybod sut y gall y ffaith bod gennych bensiwn eisoes, eich bod mewn dyled a'ch oedran effeithio ar eich penderfyniad o ran pa un a ddylech aros mewn cynllun pensiwn gweithle neu beidio.

Mae gennych bensiwn personol eisoes

Os oes gennych bensiwn personol eisoes, bydd angen i chi ystyried beth y gallwch ei fforddio a beth mae eich pensiwn personol a phensiwn eich cyflogwr yn ei gynnig. Efallai y gall y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau eich helpu. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn sefydliad annibynnol nad yw'n gwneud elw sy'n rhoi cyngor am ddim ar bensiynau.

Dyled

I lawer o bobl, mae talu i mewn i bensiwn gweithle yn syniad da, hyd yn oed os oes gennych ymrwymiadau ariannol eraill, fel morgais neu fenthyciad. Mae hyn oherwydd gallech gael budd o gyfraniadau gan eich cyflogwr a'r llywodraeth, ar ffurf rhyddhad treth. Dros amser, bydd yr arian hwn yn cronni a gall gynyddu. Dylech sicrhau yn gyntaf y gallwch fforddio talu eich ymrwymiadau eraill.

Os ydych mewn dyled ar eich taliadau morgais, rhent, cerdyn credyd neu ddyledion eraill mae'n bosibl nad pensiwn fyddai'r cam cywir ar hyn o bryd. Mae'n rhywbeth y dylech ddychwelyd ato yn ddiweddarach, unwaith y byddwch yn ymdopi'n well gyda'ch dyledion.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd ymdopi â dyled ac yr hoffech gyngor ar reoli eich arian, mae'n bosibl y bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn fan cychwyn da.

Credu eich bod yn rhy ifanc

Gallech feddwl ei bod yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio ar gyfer cyfnod diweddarach yn eich bywyd ond cofiwch y gallech fod wedi ymddeol am ugain mlynedd ac y bydd angen incwm arnoch. Mae pensiwn gweithle yn un ffordd o ddarparu'r incwm hwnnw. Yn ogystal â'ch taliadau, gallech elwa ar gyfraniadau gan eich cyflogwr a'r llywodraeth. Fel arfer, gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau talu i mewn i bensiwn. Bydd gan yr arian fwy o amser i dyfu.

Felly hyd yn oed os mai dim ond swm bach y byddwch yn ei gyfrannu, gall yr arian y byddwch yn ei gynilo yn gynnar yn eich bywyd gronni dros amser.

Credu eich bod yn rhy hen

Oni bai eich bod yn ymddeol mewn ychydig fisoedd, mae amser o hyd i gronni rhywfaint o arian ar gyfer eich ymddeoliad. Ac mae aros mewn cynllun pensiwn gweithle yn werth ei ystyried.

Yn wahanol i ffyrdd eraill o gynilo, mae bod yn rhan o gynllun pensiwn gweithle yn golygu nad chi yw'r unig un sy'n talu arian i mewn i'ch pensiwn. Os ydych yn ennill mwy na £5,564 y flwyddyn, mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu hefyd.

Byddwch yn cael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth. Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o'r arian a fyddai wedi cael ei dalu i'r llywodraeth fel treth incwm yn cael ei dalu i'ch pensiwn yn lle hynny.

Pan fyddwch yn ymddeol, mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael eich cynilion pensiwn fel cyfandaliad arian parod. Gallwch wneud hyn os bydd cyfanswm eich cynilion pensiwn islaw swm penodol (£18,000). Rhaid i chi fod yn 60 oed o leiaf er mwyn gwneud hyn. Os yw eich cronfa bensiwn mewn unrhyw gynllun pensiwn yn llai na £2000, byddwch yn gallu tynnu eich pensiwn o'r cynllun hwnnw fel arian parod, waeth pa gynilion pensiwn eraill fydd gennych. (Nid yw hyn yn berthnasol i bensiynau gweithle budd diffiniedig). I gael rhagor o wybodaeth, gofynnwch i bwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn. Am ragor o wybodaeth am y mathau o bensiynau gweithle, gweler y ddolen 'Mathau o bensiynau gweithle'.

Mae gennych gynilion pensiwn sylweddol a threfniant 'diogelwch uwch' neu 'ddiogelwch sefydlog'

Efallai y bydd yn rhaid i bobl sydd â chynilion pensiwn dros swm penodol (£1.5m yn 2012-13) ar adeg cymryd eu pensiwn, dalu treth. Gelwir hwn yn 'daliad lwfans oes'.

Yn y gorffennol, roedd pobl â chynilion pensiwn sylweddol yn gallu gwneud cais am ddiogelwch rhag talu'r dreth hon. Gelwid hyn yn drefniant 'diogelwch uwch' neu 'ddiogelwch sefydlog'.

Os oes gennych drefniant 'diogelwch uwch' neu 'ddiogelwch sefydlog' a'ch bod wedi eich cofrestru'n awtomatig ar bensiwn gweithle, byddwch yn colli eich diogelwch os na fyddwch yn eithrio.

Pan fyddwch wedi eich cofrestru'n awtomatig, mae'n rhaid i'ch cyflogwr eich hysbysu am ddyddiad dechrau a dyddiad gorffen y cyfnod eithrio o fis. Mae'n rhaid iddo esbonio'r hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn eithrio hefyd.

Os byddwch yn colli diogelwch, bydd yn rhaid i chi hysbysu Cyllid a Thollau EM.

Nodyn am y ffigurau enillion

Os ydych yn ennill mwy na £5,564 y flwyddyn a'ch bod yn rhan o gynllun pensiwn gweithle, mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu ato. Os ydych yn ennill £5,564 neu lai y flwyddyn, nid oes rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu, ond gall ddewis gwneud hynny.

Noder y gall y ffigur enillion a restrir uchod (£5,564 y flwyddyn) newid bob mis Ebrill. Os bydd yn newid, caiff y dudalen hon ei diweddaru. Mae'r ffigurau enillion hyn yn berthnasol ni waeth pa mor rheolaidd y cewch eich talu, er enghraifft, yn ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol neu bob pedair wythnos.

Amgylchiadau arbennig a sut mae eich sefyllfa yn effeithio ar eich pensiwn gweithle

Gall y broses o'ch cofrestru ar gyfer pensiwn gweithle fod yn wahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau o ran cyflogaeth. Gweler 'Amgylchiadau arbennig a'ch pensiwn gweithle' i weld enghreifftiau.

Bydd eich oedran a faint rydych yn ei ennill yn effeithio ar ba un a gewch eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gwaith. Gweler 'Sut mae eich sefyllfa yn effeithio ar eich pensiwn gweithle' i weld enghreifftiau.

Pa mor ddiogel yw pensiynau

Os nad ydych yn siŵr pa mor ddiogel yw eich pensiwn, mynnwch ragor o wybodaeth.

Eithrio o'ch pensiwn

Os byddwch yn penderfynu nad yw'r pensiwn hwn yn iawn i chi, mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei wneud.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU