Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliadau cyflogwyr a'r llywodraeth i bensiynau'r gweithle

Un o fuddiannau pensiwn y gweithle yw'r ffaith y bydd eich cyflogwr a'r llywodraeth yn cyfrannu hefyd pan fyddwch yn talu i mewn iddo. Bydd y swm yn dibynnu ar gynllun pensiwn eich cyflogwr. Yma, cewch wybod faint y gallai hyn fod a sut i gael amcangyfrif o beth y byddwch yn ei gael.

Faint fydd yn cael ei dalu i mewn i'ch pensiwn y gweithle

Yn wahanol i ffyrdd eraill o gynilo, mae pensiwn y gweithle yn golygu nad chi yw'r unig un sy'n talu arian i mewn. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu hefyd, ar yr amod eich bod yn ennill dros £5,564 y flwyddyn.

Byddwch hefyd yn cael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth. Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o'r arian a fyddai wedi cael ei dalu i'r llywodraeth fel treth incwm yn cael ei dalu i'ch pensiwn y gweithle yn lle hynny.

Mae faint y byddwch chi, eich cyflogwr a'r llywodraeth yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn yn dibynnu ar y math o gynllun pensiwn a gynigir gan eich cyflogwr. Gall pwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn roi rhagor o wybodaeth i chi.

Bydd eich cyflogwr yn cymryd eich cyfraniad yn uniongyrchol o'ch cyflog. Mae hyn yn berthnasol ni waeth pa mor rheolaidd y cewch eich talu, er enghraifft, yn ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol neu bob pedair wythnos.

Enghraifft:

Caiff y cyfraniadau i bensiwn gweithle John eu cyfrifo fel canran o'i gyflog sylfaenol crynswth. Ystyr 'crynswth' yw cyn didynnu treth, ystyr 'sylfaenol' yw heb gynnwys goramser na bonysau.

Mae John yn ennill £12,000 y flwyddyn (£1,000 y mis). Dyna ei gyflog sylfaenol crynswth. Caiff ei dalu'n fisol.

Mae cynllun pensiwn ei gyflogwr yn defnyddio'r canrannau canlynol i gyfrifo'r cyfraniadau:

  • cyfraniad John - mae'n talu pedwar y cant o'i gyflog sylfaenol crynswth
  • cyfraniad y cyflogwr - swm sy'n cyfateb i dri y cant o gyflog sylfaenol crynswth John
  • cyfraniad y llywodraeth - ar ffurf rhyddhad treth, swm sy'n cyfateb i un y cant o gyflog sylfaenol crynswth John

Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • mae John yn talu £40 y mis - daw'r swm hwn yn uniongyrchol o'i gyflog misol
  • mae ei gyflogwr yn talu £30 y mis
  • mae'r llywodraeth yn talu £10 y mis, ar ffurf rhyddhad treth ar ei daliad

Felly, er mai £40 y mis y mae John yn ei gyfrannu, £80 y mis yw cyfanswm y cyfraniad i'w bensiwn.

Mae'r llywodraeth wedi pennu lefelau gofynnol o ran yr hyn y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei dalu i mewn a'r cyfanswm a gaiff ei gyfrannu.

Nodwch: Yn yr enghraifft hon, mae cyflogwr John yn talu mwy na'r isafswm sy'n ofynnol gan y llywodraeth. Mae hyn yn golygu y gall rhywun sy’n ennill £12,000 y flwyddyn dderbyn llai gan eu cyflogwr nag y dangosir yma.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y lefelau gofynnol hyn yn 'Beth i'w ddisgwyl gan eich cyflogwr a'ch pensiwn y gweithle' – gweler y ddolen ganlynol.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi datblygu cyfrifiannell ar-lein i’ch helpu chi i gael gwybod faint y gallech chi, eich cyflogwr a’r Llywodraeth ei dalu i mewn i’ch pensiwn y gweithle. Rhowch eich cyflog i mewn a bydd y gyfrifiannell yn dangos beth y mae hun yn ei olygu o ran safbwynt cyfraniadau pensiwn mewn punnoedd a cheiniogau.

Faint y byddwch yn ei gael o'ch pensiwn y gweithle pan fyddwch yn ymddeol

Mae'n bosibl cael syniad o faint y byddwch yn ei gael o bensiwn drwy gael 'amcangyfrif pensiwn'. Caiff hyn ei alw'n 'rhagamcaniad pensiwn' weithiau hefyd. Gallwch ei gael gan bwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn.

Mae'n bosibl y bydd ganddynt gyfrifydd ar-lein hefyd a all eich helpu i gyfrifo'r incwm y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn ymddeol.

Fydd y symiau a gaiff eu talu i mewn i'm pensiwn yn newid?

Gallai'r symiau a gaiff eu talu i mewn i'ch pensiwn gynyddu neu ostwng os bydd eich cyflog sylfaenol yn codi neu'n lleihau.

Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau yn caniatáu i chi gynyddu'r swm rydych yn ei dalu i mewn, os byddwch am wneud hynny, hyd at uchafswm penodol. Gall y swm a gaiff ei gyfrannu gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth newid hefyd. Gall pwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn roi rhagor o wybodaeth i chi.

Fydd yn ddigon?

Mae bod yn rhan o gynllun pensiwn yn y gwaith yn golygu eich bod wedi cymryd cam pwysig tuag at sicrhau'r ffordd o fyw yr hoffech ei chael yn ddiweddarach yn eich bywyd. Bydd angen arian arnoch i dalu biliau, costau trafnidiaeth a bwyd, ond mae'n bosibl y byddwch am gael arian i wneud y canlynol hefyd:

  • rhedeg car
  • cyfarfod â ffrindiau am ginio neu ddiod
  • prynu anrhegion i'ch teulu neu'ch ffrindiau
  • mynd ar ddiwrnodau allan neu wyliau
  • ymgymryd â gweithgareddau chwaraeon neu weithgareddau hamdden eraill

Unwaith y byddwch wedi cael amcangyfrif o'r incwm y gallwch ei ddisgwyl gan eich pensiwn y gweithle, gallwch ystyried a fydd y swm hwnnw yn ddigon.

Os byddwch yn poeni na fydd gennych ddigon, gallech ystyried cyfrannu mwy i'ch pensiwn, gweithio'n hwy, a chynilo mewn ffyrdd eraill. Mynnwch wybod sut y gallwch gynyddu eich incwm pan fyddwch yn ymddeol:

Nodyn am y ffigur enillion

Os ydych yn ennill mwy na £5,564.00 y flwyddyn (dim ond un ceiniog yn fwy hyd yn oed) a'ch bod yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle, mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu ato. Os ydych yn ennill £5,564.00 neu lai y flwyddyn, nid oes yn rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu, ond gall ddewis gwneud hynny.

Noder y gall y ffigur enillion a restrir uchod (£5,564 y flwyddyn) newid bob mis Ebrill. Os bydd yn newid, caiff y dudalen hon ei diweddaru. Mae'r ffigur enillion hwn yn berthnasol ni waeth pa mor rheolaidd y cewch eich talu, er enghraifft, yn ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol neu bob pedair wythnos.

Beth i'w ddisgwyl gan eich cyflogwr

Mynnwch wybod beth mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei wneud, beth y gall ddewis ei wneud a beth na ddylai ei wneud.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU