Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfweliadau am basbort

Mae cyfweliadau am basbort bellach yn rhan newydd o'r broses wneud cais os ydych yn gwneud cais am basbort oedolyn cyntaf. Mae hyn yn golygu y bydd eich cais yn cymryd mwy o amser nag yn y gorffennol - dylech ganiatáu o leiaf chwe wythnos. Cynhelir cyfweliadau mewn swyddfeydd ledled y wlad a bydd bob un yn para tua 30 munud.

Pam y penderfynwyd cynnal cyfweliadau

Penderfynwyd cynnal cyfweliadau fel mesur diogelwch ychwanegol er mwyn atal pobl rhag cael pasbortau gyda hunaniaeth ffug.

Gadewch ddigon o amser i fynd i’ch cyfweliad, yn enwedig pan mae digwyddiadau fel y Gemau Olympaidd yn digwydd.

Pwy sy'n gorfod cael cyfweliad?

Dim ond oedolion nad ydynt erioed wedi cael pasbort Prydeinig yn eu henwau eu hunain sy'n gorfod cael cyfweliad.

Os oedd gennych eich pasbort eich hun yn blentyn ni fydd angen i chi fynd i gyfweliad, gan y caiff eich cais ei gyfrif fel cais i adnewyddu. Os nad oedd gennych basbort yn blentyn (neu os mai dim ond ar basbort rhiant yr ydych wedi'ch cynnwys erioed) bydd angen i chi fynd i gyfweliad.

Os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny, efallai na fydd yn rhaid i chi fynd i gyfweliad. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn penderfynu p'un ai a ydynt am gyfweld â chi ar ôl iddynt dderbyn eich cais wedi'i gwblhau.

Ffoniwch am gyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau

Am ragor o gyngor ynghylch y broses gyfweld ar gyfer pasbortau, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000. Mae’r llinell ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus.

Sut y mae'r cyfweliad yn effeithio ar eich cais

Bydd angen i chi wneud cais am eich pasbort yn y ffordd arferol, drwy ddefnyddio'r ffurflen gais safonol a'i hanfon i'r Gwasanaethau Hunaniaeth a Phasbortau.

Bydd staff yng Nghanolfannau Gwasanaeth Cwsmeriaid y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn sefydlu bod eich hunaniaeth yn bodoli a bod gennych yr hawl i basbort Prydeinig. Bydd hyn yn cynnwys holi ffynonellau annibynnol megis y gofrestr etholiadol a hanes cyfeiriadau. Fel hyn, byddant yn llunio 'ôl-troed bywgraffyddol' a ddefnyddir yn y cyfweliad i brofi pwy ydych chi.

Yna byddwch yn cael llythyr yn gofyn i chi ffonio'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i drefnu apwyntiad ar gyfer cyfweliad yn un o'u swyddfeydd. Gallwch ddewis unrhyw swyddfa, ond efallai na fyddwch bob amser yn cael yr union amser neu'r dyddiad o'ch dewis.

Mewn rhai ardaloedd pell, gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau drefnu cyfweliadau lleol. Os ydych yn byw yn un o'r ardaloedd hyn, bydd aelod o staff y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn egluro hyn pan fyddwch yn ffonio i drefnu apwyntiad.

Dylech ganiatáu mwy o amser wrth wneud cais

Dylai cwsmeriaid sy'n gwneud cais am basbort oedolyn am y tro gyntaf ganiatáu mwy o amser nag yn y gorffennol ar gyfer cael eu pasbort. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell eich bod yn cyflwyno'ch cais chwe wythnos cyn y mae angen i chi deithio.

Peidiwch â gwneud dim trefniadau teithio nes i chi gael eich pasbort newydd.

Nid yw'r gwasanaeth Trac Cyflym na'r gwasanaeth Premiwm ar gael ar gyfer cwsmeriaid sy'n gwneud cais am basbort oedolyn am y tro cyntaf

Oherwydd y bydd angen i chi fynd am gyfweliad am eich pasbort oedolyn cyntaf, ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym na'r gwasanaeth undydd Premiwm.

Beth sy'n digwydd yn y cyfweliad

Bydd y cyfweliad yn para tua 30 munud a chaiff ei gynnal mewn ffordd gyfeillgar. Gofynnir i chi gadarnhau ffeithiau amdanoch eich hun gan fwyaf - ffeithiau na fyddai rhywun sy'n ceisio dwyn eich hunaniaeth yn eu gwybod amdanoch efallai.

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn cael gwared ar unrhyw wybodaeth a ddefnyddir mewn cyfweliad yn fuan ar ôl cyhoeddi'r pasbort.

Swyddfeydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau a sut i ddod o hyd iddynt

Mae'r gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau rwydwaith o swyddfeydd ledled y DU. Dim ond at ddibenion cyfweliadau y mae’r swyddfeydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau - nid ydynt yn cyhoeddi pasbortau.

Os gofynnir i chi fynd i gyfweliad dylech sicrhau eich bod yn mynd i'r swyddfa gywir. Os na wnewch chi hyn, fe allech golli eich apwyntiad ac mae'n bosib y caiff eich cais ei ohirio.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU