Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canllaw cyflym i lenwi'r ffurflen gais am basbort

Ceir un ffurflen gais sy'n cael ei defnyddio ar gyfer pob math o geisiadau am basbort, heblaw pasbortau cyfunol. Ceir cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen. Canllaw cyflym yw hwn ar sut mae cael y ffurflen a dechrau arni. Gallwch hefyd lwytho'r llyfryn canllawiau sy'n dod gyda'r ffurflen bapur oddi ar y we.

Os nad oes gennych ffurflen gais

Mae pedair ffordd y gallwch gael y ffurflen gais. Gallwch:

  • llenwi'r ffurflen gais ar-lein, a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argraffu'r ffurflen wedi'i chwblhau ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r dogfennau ategol
  • ei chasglu o gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasbortau
  • gofyn am ffurflen gais ar-lein a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn anfon un atoch drwy'r post - gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i gyrraedd
  • ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000 a gofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau anfon un atoch drwy'r post - gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i gyrraedd

Os ydych chi'n dymuno gwneud cais am basbort cyfunol

Yn yr achos hwn ewch i'r adran 'Pasbortau cyfunol (neu grŵp)'. Mae'r adran hon yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod pan fyddwch yn gwneud cais.

Sut mae llenwi’r ffurflen gais

Ceir llyfryn canllawiau manwl gyda'r ffurflen bapur, sy'n egluro sut mae ei llenwi. Gallwch lwytho copi ychwanegol o'r llyfryn canllawiau os oes arnoch ei angen drwy ddilyn y ddolen isod.

Os ydych chi'n llenwi'r ffurflen gais ar-lein, bydd cyfarwyddiadau llawn yn ymddangos ar y sgrin wrth i chi fynd drwy'r ffurflen.

Gallwch hefyd gael mwy o gymorth i lenwi'r ffurflen drwy wneud y canlynol:

  • ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000
  • defnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon sydd ar gael mewn rhai canghennau Swyddfa'r Post

Y pethau sylfaenol

Ar gyfer y ffurflen bapur, mae'n bwysig:

  • llenwi'r ffurflen mewn PRIFLYTHRENNAU gyda beiro ddu
  • ysgrifennu yn y blychau gwyn yn unig
  • gadael rhannau eraill y ffurflen yn wag (peidio â rhoi llinell drwyddynt na'u marcio fel arall)

Os byddwch yn gwneud mân gamgymeriadau gallwch roi llinell drwyddynt gyda beiro. Peidiwch â defnyddio hylif cywiro.

Adran 1 y ffurflen

Rhowch groes yn y blwch i ddangos am ba fath o basbort yr ydych yn gwneud cais. Yn y fan hon, gallwch hefyd wneud y pethau hyn:

  • gofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ddychwelyd eich dogfennau ategol drwy ddefnyddio gwasanaeth Cludiant Diogel (Secure Delivery)
  • gwneud cais am basbort mawr 48 tudalen
  • gofyn am gael sticer Braille ar eich pasbort

Adran 2 y ffurflen

Ar gyfer eich manylion cyswllt a chyfeiriad y DU bresennol y mae'r adran hon. Dylech gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost, os oes gennych un, rhag ofn y bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gysylltu â chi.

Adran 3 y ffurflen

Mae'r adran hon ar gyfer manylion am y pasbortau sydd gennych, oedd gennych neu yr ydych wedi eich cynnwys arnynt yn y gorffennol. Yn ogystal â hyn, dyma lle'r ydych yn rhoi manylion pasbort sydd ar goll neu wedi'i ddwyn.

Adran 4 y ffurflen

Ni ddylech lenwi'r adran hon oni bai fod y canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn oedolyn (16 oed neu hŷn) sy'n gwneud cais am eich pasbort cyntaf (neu'n blentyn sy'n debygol o gael ei ben-blwydd yn 16 oed cyn y gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ddarparu'r pasbort)
  • ar gyfer plentyn (dan 16 oed) y mae'r cais
  • cawsoch eich geni dramor
  • rydych yn gwneud cais i ymestyn eich pasbort neu am gael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi

Adran 5 y ffurflen

Ni ddylech lenwi'r adran hon oni bai fod gennych dystysgrif cofrestru neu frodori'r Swyddfa Gartref.

Adran 6 y ffurflen

Ni ddylech lenwi'r adran hon oni bai fod y cais ar gyfer plentyn rhwng 12 a 15 oed.

Adran 7 y ffurflen

Gadewch yr adran hon yn wag.

Adran 8 y ffurflen

Defnyddiwch y lle gwag hwn i gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ydych yn meddwl y dylai'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau wybod amdani, megis:

  • manylion cyfeiriad blaenorol neu gyfeiriad arall
  • y ffordd orau i gysylltu â chi os oes gennych nam ar eich golwg
  • eich bod eisoes wedi anfon ffurflen LS01 i roi gwybod i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau am basbort sydd ar goll neu wedi'i ddwyn

Adran 9 y ffurflen

Yn y fan hon, rhaid i chi lofnodi'ch cais a rhoi'r dyddiad arno.

Os byddwch yn llenwi'r ffurflen ar-lein, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n anfon y fersiwn wedi'i chwblhau atoch er mwyn i chi ei llofnodi yn adran 9 cyn ei phostio'n ôl iddynt.

Adran 10 y ffurflen

Dyma'r adran y mae'n rhaid i'r unigolyn yr ydych wedi gofyn iddo adlofnodi'ch ffurflen ei llenwi a'i llofnodi. Dim ond os ydych yn gwneud cais am un o'r canlynol y mae angen i chi gael rhywun i adlofnodi'ch cais:

  • pasbort cyntaf
  • pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi
  • adnewyddu pasbort plentyn sy'n 11 oed neu'n iau
  • adnewyddu pasbort pan mae eich ymddangosiad wedi newid i'r fath raddau y byddai'n anodd eich adnabod o'r llun yn eich pasbort diwethaf neu'ch pasbort cyfredol

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU