Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ceisiadau am basbort ac i adnewyddu eich pasbort os ydych chi dramor neu’n byw y tu allan i’r DU

Pan fyddwch chi’n adnewyddu neu wneud cais am basbort y tu allan i’r DU, bydd eich cais yn cael ei brosesu dramor. Peidiwch ag anfon eich cais i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn y DU. Yma, cewch wybod sut i adnewyddu neu wneud cais am basbort o dramor neu tra byddwch yn ymweld â'r DU.

Adnewyddu neu wneud cais am basbort pan fyddwch dramor

Cwsmeriaid o dramor

Dylid anfon ceisiadau o dramor i’r ganolfan brosesu pasbortau ranbarthol berthnasol, nid i swyddfa basbortau yn y DU.

Gweler gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael cyngor ar wledydd penodol

Nid yw’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn y DU yn prosesu ceisiadau am basbort sydd wedi cael eu hanfon o dramor. Os ydych y tu allan i’r DU, bydd eich cais am basbort yn cael ei brosesu dramor gan ganolfan brosesu pasbortau ranbarthol. Mae pob canolfan brosesu ranbarthol yn prosesu ceisiadau o wledydd penodol.

Cael gwybod i ble y dylech anfon eich cais am basbort

Gweler gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael cyngor penodol am y wlad rydych ynddi ynghylch sut i adnewyddu neu wneud cais am eich pasbort.

Dewiswch y wlad rydych ynddi o’r rhestr A i Y ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael:

  • manylion cyswllt y ganolfan brosesu pasbortau ranbarthol sy’n derbyn ceisiadau ar gyfer y wlad rydych ynddi
  • gwybodaeth am unrhyw ofynion lleol ar gyfer ceisiadau
  • ffioedd ac amseroedd prosesu lleol

Faint o amser fydd eich cais am basbort yn ei gymryd o dramor

Fel arfer bydd hi'n cymryd tua phedair wythnos i gyhoeddi pasbort dramor, ond bydd ceisiadau am basbort cyntaf oedolyn yn cymryd mwy o amser. Am geisiadau am basbort cyntaf oedolyn, efallai y gofynnir i chi gael cyfweliad.

Ni ddylech wneud dim cynlluniau teithio nes i chi gael eich pasbort newydd. Bydd angen i chi aros yn yr un wlad ag y gwnaethoch y cais i gasglu eich pasbort newydd. Os byddwch yn teithio ar basbort cenedl arall neu ddogfen argyfwng, fydd dim modd i chi gasglu eich pasbort Prydeinig newydd mewn gwlad arall.

Os oes angen teithio ar frys arnoch

Os oes angen teithio ar frys arnoch neu mae eich pasbort ar goll neu wedi cael ei ddwyn, cysylltwch â’ch swyddfa Llysgenhadaeth Prydain, yr Uwch Gomisiwn neu’r Is-genhadaeth leol. Mae’n bosibl y gallant eich helpu gyda dogfennau teithio brys. Does dim modd i’r canolfannau prosesu pasbortau rhanbarthol brosesu ceisiadau brys.

Adnewyddu neu wneud cais am basbort tra byddwch yn ymweld â'r DU

Os nad ydych chi'n byw yn y DU, gallwch adnewyddu neu wneud cais am eich pasbort Prydeinig tra byddwch yn ymweld â’r DU.

Ymweliadau byr i’r DU – adnewyddu eich pasbort

Os byddwch chi’n aros yn y DU am dair wythnos neu lai, efallai y byddwch chi’n gallu adnewyddu eich pasbort drwy ddefnyddio gwasanaeth ceisiadau brys. Rhaid gwneud hyn yn bersonol. I ddefnyddio’r gwasanaethau hyn, bydd angen i chi:

  • drefnu apwyntiad mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol yn y DU – gallwch wneud hyd at bythefnos ymlaen llaw
  • roi cyfeiriad yn y DU i le gellir danfon eich pasbort newydd - does dim modd anfon eich pasbort i gyfeiriad dramor

Gweler ‘Ceisiadau brys am basbort’ i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, gan gynnwys ffioedd a sut i drefnu apwyntiad.

Adnewyddu eich pasbort yn ystod ymweliad hir i’r DU

Os ydych yn y DU am fwy na dair wythnos, gallwch hefyd wneud cais i adnewyddu eich pasbort gan ddefnyddio’r broses adnewyddu safonol. Mae’r broses hon fel arfer yn cymryd tua thair wythnos ond does dim modd gwarantu amserau dychwelyd. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell eich bod yn defnyddio gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post. Fel arfer caiff ceisiadau a anfonir gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn eu prosesu’n gynt na cheisiadau safonol drwy’r post.

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybodaeth am y broses adnewyddu safonol ar gyfer pasbortau i oedolion a phlant.

Gwneud cais am basport Prydeinig cyntaf tra byddwch yn ymweld â'r DU

Dim ond i gyfeiriad yn y DU y gellir danfon eich pasbort Prydeinig - peidiwch â threfnu i fynd i deithio cyn iddo gyrraedd

Os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a byth wedi cael pasbort Prydeinig eich hun, ni allwch wneud cais gan ddefnyddio gwasanaeth brys. Am eich pasbort oedolyn cyntaf, rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio’r broses gwneud cais safonol.

Bydd angen i chi fynd i gyfweliad a dylech ganiatáu o leiaf chwe wythnos ar gyfer y broses gwneud cais. Fodd bynnag, efallai y bydd angen wirio rhai o’r dogfennau ategol ar gyfer eich cais. Gall y broses gwneud cais gymryd mwy o amser os mae’r dogfennau hyn o dramor.

Os ydych o dan 16 oed, gallwch wneud cais am eich basbort plentyn cyntaf gan ddefnyddio’r gwasanaeth brys ‘wythnos Trac Cyflym’.

Dim ond i gyfeiriad yn y DU y gellir danfon eich pasbort Prydeinig. Peidiwch â threfnu i fynd i deithio cyn i'ch pasbort newydd gyrraedd.

Ddim yn siŵr a ydych chi’n gymwys i gael pasbort Prydeinig?

Ceir rheolau caeth ynghylch pwy all gael pasbort Prydeinig - 'Pwy sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig?'.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU