Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ceisiadau am basbort ac achosion o gipio plant

Mae achosion o gipio plant yn brin, ond mae'n drosedd difrifol. Mae'n digwydd pan fydd rhywun (yn aml un rhiant, a hynny'n groes i ddymuniad y rhiant arall) yn mynd â phlentyn o'r wlad heb ganiatâd. Os yw'ch plentyn mewn perygl, efallai y gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau helpu.

Y gyfraith ar fynd â phlentyn o'r wlad

Mae'n drosedd i unrhyw un sy'n ‘gysylltiedig â phlentyn’ dan 16 oed fynd â'r plentyn hwnnw, neu ei anfon, o'r DU heb ‘ganiatâd priodol’. Mae hyn wedi'i nodi yn Neddf Cipio Plant 1984.

Dyma eglurhad:

  • y bobl sy'n 'gysylltiedig â'r plentyn' yw rhieni'r plentyn, ei warcheidwad a phobl sydd â gorchymyn preswylio neu gyfrifoldeb rhiant
  • mae 'caniatâd priodol' yn golygu caniatâd y fam, y tad (os oes ganddo gyfrifoldeb rhiant), y gwarcheidwad ac unrhyw un sydd â gorchymyn preswylio neu gyfrifoldeb rhiant, neu ganiatâd y llys

Tadau a chyfrifoldeb rhiant

Yn gyffredinol, dim ond os yw'n briod â mam y plentyn, neu os yw wedi bod yn briod â mam y plentyn, y caiff tad y plentyn gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig. Fodd bynnag, mae gan dad gyfrifoldeb rhiant os yw’n cofrestru’r enedigaeth ar y cyd â mam y plentyn ar neu ar ôl:

  • 15 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon
  • 1 Rhagfyr 2003 yng Nghymru a Lloegr
  • 4 Mai 2006 yn yr Alban

Efallai y caiff y tad gyfrifoldeb rhiant gan y llys neu drwy gytundeb ysgrifenedig â mam y plentyn.

Gallwch gael gwybodaeth fanylach am gyfrifoldeb rhiant a beth mae'n ei olygu yn 'Hawliau a chyfrifoldebau rhieni'.

Gorchmynion preswylio

Caiff rhywun sydd â gorchymyn preswylio fynd â'r plentyn neu ei anfon o'r DU heb ganiatâd am hyd at fis ar y tro.

Rhoddir gorchmynion preswylio dan Adran 8 Deddf Plant 1989. Maent yn cadarnhau gyda phwy y mae plentyn yn cael byw. Caiff yr unigolyn a enwir yn y gorchymyn gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig os nad oedd â chyfrifoldeb rhiant yn barod, ond nid yw hynny'n golygu mai'r unigolyn hwnnw'n unig fydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Mae hyn yn golygu na chaiff wneud y canlynol:

  • mynd â'r plentyn o'r wlad am fwy na mis
  • newid enw'r plentyn heb ganiatâd pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant (fel yr eglurir uchod) neu orchymyn llys

Sut y gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau helpu i atal cipio plant

Fel arfer, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn rhoi pasbort os yw'r cais yn cael ei wneud gan:

  • unrhyw un o'r rhieni (ar yr amod bod gan y rhiant sy'n gwneud y cais gyfrifoldeb rhiant, fel yr eglurwyd uchod)
  • person arall â chyfrifoldeb rhiant

Os oes gennych orchymyn llys sy'n gwahardd rhoi pasbort heb eich caniatâd chi neu ganiatâd y llys, dylech roi gwybod i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Yn yr achosion hyn, ni wnaiff y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau roi pasbort i'r plentyn os yw'r cais yn dod gan unrhyw un arall sy'n honni bod ganddo gyfrifoldeb rhiant.

Gellir defnyddio'r mathau canlynol o orchmynion llys:

  • gorchymyn camau gwaharddedig a wnaed dan Ddeddf Plant 1989 neu Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995
  • gwaharddiad a wnaed dan Ddeddf Plant (yr Alban) 1995
  • gorchymyn yn cadarnhau bod mynd â'r plentyn o'r wlad yn erbyn dymuniadau'r llys
  • gorchymyn preswylio dan unrhyw un o'r tair Deddf uchod, a wnaed o'ch plaid chi
  • gorchymyn yn rhoi cystodaeth o'r plentyn neu ofal neu reolaeth dros y plentyn i chi
  • gorchymyn yn datgan ei bod yn rhaid i chi roi eich caniatâd cyn y gellir mynd â'r plentyn o'r wlad
  • gorchymyn yn ategu eich gwrthwynebiad i roi pasbort i'ch plentyn neu i'ch plentyn adael y wlad

Os nad oes gennych orchymyn llys mae'n dal yn bosib i chi ofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau beidio â rhoi pasbort i'ch plentyn. Rhaid i chi fod yn fam i’r plentyn. Mae’n rhaid i’r ddau bwynt canlynol hefyd fod yn wir:

  • nid ydych wedi bod yn briod â thad y plentyn
  • nid yw'r tad wedi sicrhau cyfrifoldeb rhiant

Mwy o help a gwybodaeth

I ofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau beidio â rhoi pasbort i'ch plentyn, yn gyntaf oll dylech ffonio'r Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000.

Gallwch gael gwybodaeth fanylach am achosion o gipio plant gan Reunite. Mae Reunite yn elusen sy'n rhoi cyngor ar ddelio ag achosion o blant yn cael eu cipio gan eu rhieni ac anghydfodau cystodaeth rhyngwladol. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfryngu i rieni. Gallwch ei ffonio ar 01162 556 234 rhwng 9.30 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Am fanylion cyswllt i’w defnyddio mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa, ewch i’w gwefan.

Os yw'ch plentyn wedi cael ei gipio

Os oes rhywun eisoes wedi mynd â'ch plentyn dramor, dylech ffonio Adran Cipio Plant y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar 0207 008 0878. Ffoniwch 0207 008 1500 y tu allan i oriau swyddfa. Gallwch weld manylion llawn yr hyn y gall y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ei wneud, a beth na all ei wneud, yn yr adran 'Cipio plant yn rhyngwladol'.

Gallwch hefyd gael cyngor gan yr Uned Gyswllt Cipio Plant yn Rhyngwladol (ICACU) yn Swyddfa'r Twrnai Swyddogol, sy'n rhan o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rhif ffôn ICACU yw 020 7911 7045/7047. Mae'r llinell ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU