Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y ffurflen gais, y ffi a'r dogfennau ategol ar gyfer pasbort plentyn

Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) ffurflen safonol ar gyfer ceisiadau am basbort unigol. Mae'n cynnwys cyfarwyddiadau llawn, p'un a fyddwch yn llenwi'r fersiwn bapur neu'n ei chwblhau ar-lein. Mynnwch wybod y ffi, sut i gael y ffurflen a pha ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu hanfon i'r IPS.

Cost pasbort plentyn

Mae pasbort cyntaf plentyn yn costio £46.00 ar gyfer gwasanaeth safonol a £87.00 ar gyfer y gwasanaeth Llwybr Carlam un wythnos. Nid yw'r gwasanaeth Premiwm ar gael.

Mae adnewyddu pasbort plentyn yn costio £46.00 ar gyfer gwasanaeth safonol, £87.00 ar gyfer y gwasanaeth Llwybr Carlam un wythnos a £106.50 ar gyfer y gwasanaeth Premiwm un dydd.

Gallwch gael gwybodaeth fanwl yn yr adran 'Ffioedd pasbortau, pa mor hir y mae'n ei gymryd a cheisiadau brys'.

Y ffurflen gais

Sut i gael y ffurflen gais
Gallwch gael y ffurflen gais drwy un o bedair ffordd. Gallwch:

  • ei chwblhau ar-lein, yna bydd yr IPS yn argraffu'r ffurflen wedi'i chwblhau ac yn ei hanfon atoch i chi ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r dogfennau ategol
  • ei chasglu o un o ganghennau Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasbort
  • gofyn am ffurflen ar-lein a bydd yr IPS yn ei hanfon atoch drwy'r post - dylech ganiatáu pum diwrnod gwaith i gael y ffurflen
  • ffonio'r Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000 a gofyn i'r IPS ei hanfon atoch drwy'r post - dylech ganiatáu pum diwrnod gwaith i gael y ffurflen

Pwy y mae angen iddo lofnodi'r ffurflen
Dylai rhiant y plentyn neu rywun â chyfrifoldeb rhiant lofnodi'r ffurflen.

Os yw'r rhieni wedi ysgaru ond eu bod:

  • yn briod ar adeg geni'r plentyn (neu pan feichiogodd y fam, i'r rheini sy'n byw yn yr Alban)
  • yn briod ar unrhyw adeg ar ôl geni'r plentyn

gall y naill riant neu'r llall lofnodi, oni bai bod gorchymyn llys ar waith mewn perthynas â chyfrifoldeb rhiant neu hawl y plentyn i gael pasbort. Os oes gorchymyn llys o'r fath ar waith, dylech ei anfon i'r IPS gyda'r cais.

Noder nad yw gorchymyn gwarchodaeth neu orchymyn cynhaliaeth yn diddymu cyfrifoldeb rhiant y rhiant arall yn awtomatig.

Os nad yw'r rhieni'n briod â'i gilydd, gall y fam roi caniatâd. Os nad yw'r tad yn briod â mam y plentyn (ac nad yw wedi ysgaru â hi fel y disgrifir uchod), dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gall roi caniatâd:

  • mae ganddo orchymyn neu gytundeb cyfrifoldeb rhiant (y dylai ei anfon gyda'r cais)
  • mae wedi'i enwi ar y dystysgrif geni a chofrestrwyd yr enedigaeth ar neu ar ôl 15 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon, 1 Rhagfyr 2003 yng Nghymru a Lloegr, 4 Mai 2006 yn yr Alban

Os oes oedolyn arall yn gweithredu fel rhiant dylai anfon tystiolaeth o'i gyfrifoldeb rhiant i'r IPS.

Mae mwy o wybodaeth am gyfrifoldeb rhiant yn yr adran i rieni.

Cwblhau manylion rhieni yn adran 4 o'r ffurflen gais

Os yw'r rhieni o'r ddau ryw, dylai'r fam nodi ei manylion yn y blychau o dan 'Mother or Parent 1'. Dylai'r tad nodi ei fanylion yn y blychau o dan 'Father or Parent 2'.

Os yw'r rhieni o'r un rhyw, dylai'r rhiant sy'n ymddangos gyntaf ar y gorchymyn rhieni, tystysgrif geni, tystysgrif mabwysiadu neu ddogfennau perthnasol eraill nodi ei fanylion yn y blychau o dan 'Mother or Parent 1'. Dylai'r rhiant a enwir yn ail ar y gorchymyn rhieni nodi ei fanylion y blychau o dan 'Father or Parent 2'.

Llenwi'r adrannau mam a thad os ydych yn rhiant unigol

Os mai chi yw unig riant eich plentyn, llenwch naill ai adran 'Mother or Parent 1' neu 'Father or Parent 2' o'r ffurflen, fel y bo'n briodol, a gadael y bylchau ar gyfer rhiant arall yn wag. Rhowch nodyn yn adran 8 i ddangos mai chi yw'r unig riant a pham (er enghraifft, os nad ydych yn gwybod pwy yw rhiant arall y plentyn, os gwnaeth ei fabwysiadu ar eich pen eich hun, neu os ydych yn rhiant unigol y cafodd eich plentyn ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth ac ati)

Pasbort cyntaf plentyn - dogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am gopïau o dystysgrifau geni, mabwysiadu neu briodas

Mae angen i'r IPS weld dogfennau gwreiddiol sy'n profi bod eich plentyn yn Brydeinig. Nid yw'r IPS yn derbyn llungopïau o ddogfennau na dogfennau sydd wedi'u lamineiddio, ond bydd yn derbyn dogfennau sydd wedi'u lamineiddio at ddibenion labelu Braille.

Nid ystyrir tystysgrif geni neu fabwysiadu yn brawf adnabod absoliwt. Hyd yn oed os ganwyd eich plentyn yn y DU, gall yr IPS ofyn am gael gweld dogfennau pellach.

Mae'r dogfennau y bydd angen i'r IPS eu gweld yn dibynnu ar ble y cafodd eich plentyn ei eni.

Os nad ydych yn siŵr o hyd beth sydd angen i chi ei anfon ar ôl darllen y manylion isod, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau'r IPS ar 0300 222 0000.

Os ganwyd y plentyn yn DU
Mae angen i'r IPS weld tystysgrif geni lawn y plentyn sy'n dangos manylion y rhieni ac un o'r canlynol:

  • adran 4 o'r ffurflen gais wedi'i chwblhau â manylion pasbort Prydeinig y naill riant neu'r llall*
  • tystysgrif geni'r DU ar gyfer y naill riant neu'r llall*
  • tystysgrif gofrestru neu ddinasyddio y Swyddfa Gartref ar gyfer y naill riant neu'r llall (neu'r plentyn lle y bo'n briodol)*
  • y pasbort a oedd yn ddilys ar adeg geni'r plentyn** ar gyfer y naill riant neu'r llall*

Noder*: os byddwch yn rhoi manylion y tad, bydd angen i'r IPS weld tystysgrif priodas y rhieni hefyd.

Noder**: os daeth y pasbort i ben cyn i'r plentyn gael ei eni, bydd angen i chi anfon y pasbort a ddefnyddiwyd gan y rhiant i ddod i'r DU.

Os ganwyd y plentyn y tu allan i'r DU
Mae angen i'r IPS weld tystysgrif geni lawn y plentyn* sy'n dangos manylion y rhieni ac un o'r canlynol:

  • adran 4 o'r ffurflen gais wedi'i chwblhau â manylion pasbort Prydeinig y naill riant neu'r llall**
  • tystysgrif geni'r DU ar gyfer y naill riant neu'r llall**
  • tystysgrif gofrestru neu ddinasyddio y Swyddfa Gartref ar gyfer y naill riant neu'r llall**
  • y pasbort a oedd yn ddilys ar adeg geni'r plentyn ar gyfer y naill riant neu'r llall**

Noder*: os oes gan y plentyn dystysgrif geni a gyhoeddwyd gan un o Is-genhadon neu uchel gomisiwn Prydain, nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau eraill.

Noder**: Os ydych yn anfon dogfennau'r tad, rhaid i chi hefyd anfon tystysgrif priodas y rhieni os ganwyd y plentyn cyn 1 Gorffennaf 2006.

Os ganwyd y plentyn y tu allan i'r DU ond bod ganddo dystysgrif ddinasyddio neu gofrestru gan y Swyddfa Gartref
Mae angen i'r IPS weld:

  • y dystysgrif ddinasyddio neu gofrestru
  • y pasbort a ddefnyddiwyd gan y plentyn i ddod i'r DU

Os cafodd eich plentyn ei fabwysiadu, ei eni gan fam benthyg neu ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth
I gael mwy o wybodaeth am blant a fabwysiadwyd, neu'r rheini a anwyd gan fam benthyg neu drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth, gweler y ddolen isod.

Adnewyddu pasbort plentyn - dogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu

Yn yr achos hwn, bydd angen i'r IPS weld pasbort cyfredol eich plentyn neu ei basbort diwethaf.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU