Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tabl o ffioedd pasbort, sut mae talu ac ad-daliadau

Mae ffioedd pasbort yn amrywio gan ddibynnu ar y math o gais a wnewch a'r math o wasanaeth y byddwch yn ei ddefnyddio. Mae’n bosib y byddwch yn gallu cael ad-daliad os na fydd y gwasanaethau Premiwm a Thrac Cyflym yn bodloni eu hamseroedd gwarantedig. Darllenwch y canllaw hwn i gostau a sut mae talu.

Faint fydd eich pasbort yn ei gostio

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argymell gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post. Yn ogystal â'r ffi a nodir ar gyfer y ‘gwasanaeth arferol’, bydd yn rhaid i chi dalu ffi weinyddol i Swyddfa'r Post.

Ar hyn o bryd, £8.75 yw'r ffi weinyddol hon. (Os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r ffi hon.)

O 3 Medi 2012, cafodd y pris cyfartalog am basbort ei leihau gan £5.00.

Gwasanaeth arferol drwy’r post (sy’n ymdrechu i ddychwelyd eich pasbort o fewn tair wythnos – nid yw hynny wedi’i warantu)

Gwasanaeth wythnos Trac Cyflym

Gwasanaeth undydd Premiwm

Oedolion (16 oed a hŷn)

Adnewyddu neu ddiwygio pasbort oedolyn presennol

£72.50

£103.00

£128.00

Pasbort oedolyn cyntaf os ydych eisoes wedi dal pasbort plentyn a gyhoeddwyd yn y DU

£72.50

£103.00

£128.00

Pasbort oedolyn cyntaf – os nad ydych erioed wedi dal pasbort plentyn a gyhoeddwyd yn y DU

£72.50

Amh.

Amh.

Cael pasbort oedolyn newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi

£72.50

£103.00

Amh.

Ymestyn pasbort oedolyn â dilysrwydd cyfyngedig, a gyhoeddwyd ar 1 Mai 2008 neu ar ôl hynny*

£72.50

£103.00

Amh.

Pasbort mawr (48 tudalen)

£85.50

£111.00

£137.00**

Plant (dan 16 oed)

Pasbort plentyn cyntaf (gan gynnwys y rheini a oedd ar basbort rhiant)

£46.00

£87.00

Amh.

Adnewyddu neu ddiwygio pasbort plentyn presennol

£46.00

£87.00

£106.50

Cael pasbort plentyn newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi

£46.00

£87.00

Amh.

Ymestyn pasbort plentyn â dilysrwydd cyfyngedig, a gyhoeddwyd ar 1 Mai 2008 neu ar ôl hynny*

£46.00

£87.00

Amh.

Oedolion a aned ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny

Pasbort safonol deng mlynedd, 32 tudalen

Am ddim

£30.50

£55.50

* Mae ymestyn pasbort oedolyn neu blentyn sydd â dilysrwydd cyfyngedig, a gyhoeddwyd cyn 1 Mai 2008, am ddim.
** Ar gael wrth adnewyddu pasbort presennol (arferol neu fawr) yn unig.

Postio a Chludiant Diogel

Mae'r ffi pasbort yn cynnwys anfon eich pasbort newydd drwy Gludiant Diogel (Secure Delivery) a dychwelyd eich dogfennau ategol drwy bost ail ddosbarth y Post Brenhinol.

Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd ddychwelyd eich dogfennau ategol drwy Gludiant Diogel am ffi ychwanegol o £3.00.

Os ydych am i’ch dogfennau ategol gael eu hanfon yn ôl drwy Gludiant Diogel, dylech ychwanegu £3.00 at y ffioedd a ddangosir yn y tabl pan fyddwch yn gwneud eich taliad.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r £3.00 ychwanegol:

  • os byddwch yn adnewyddu eich pasbort am basbort mawr 48 tudalen
  • os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny

Ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn talu am unrhyw golled neu oedi a berir gan wasanaethau’r Post Brenhinol.

Sut mae talu

Sut mae gwneud cais

A yw cardiau debyd/credyd yn cael eu derbyn?

A yw sieciau/archebion post yn cael eu derbyn?

A yw arian parod yn cael ei dderbyn?

Defnyddio gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post

ydyn

archeb bost yn unig yn daladwy i ‘Post Office Ltd’

ydy

Drwy'r post

ydyn – dylech lenwi’r ffurflen yn y pecyn ymgeisio

ydyn, yn daladwy i ‘Identity and Passport Service’

nac ydy

Yn bersonol mewn Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau

ydyn

archeb bost yn unig yn daladwy i ‘Identity and Passport Service’

ydy

Hawlio ad-daliad o ffi’r gwasanaeth Premiwm neu Drac Cyflym

Os byddwch yn talu am y gwasanaeth Premiwm neu Drac Cyflym, ond na fydd eich cais yn cael ei brosesu o fewn yr amser a nodir, gallwch hawlio ad-daliad. Caiff y ffi ar gyfer y gwasanaeth ychwanegol ei had-dalu – ond nid y ffi pasbort safonol. Fodd bynnag, ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ad-dalu’r ffi os na chafodd eich cais ei brosesu o fewn yr amser a nodwyd o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth resymol. Er enghraifft, mewn rhai achosion, efallai y bydd angen amser ychwanegol ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau er mwyn asesu eich cais. Bydd hyn er mwyn cadarnhau manylion yr ydych wedi’u rhoi a chysylltu â’ch adlofnodwr.

Gallwch chi hefyd hawlio ad-daliad os gwnaethoch gais am ffi'r gwasanaeth Premiwm neu Drac Cyflym am y rhesymau canlynol:

  • am fod angen i chi deithio ar frys o ganlyniad i farwolaeth neu salwch difrifol aelod o'r teulu, ffrind neu bartner busnes
  • am eich bod yn teithio dramor i gael triniaeth feddygol
  • am eich bod yn ddifrifol wael, neu'n gofalu am rywun sy'n ddifrifol wael, a bod eich taith wedi'i threfnu gan fudiad elusennol/crefyddol

Dylech dalu’r ffi yn llawn, yna hawlio ad-daliad o ffi'r gwasanaeth Premiwm neu Drac Cyflym. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn asesu pob cais am ad-daliad yn unol â'i feini prawf ei hun.

Dilynwch y ddolen isod i lwytho ffurflen Hawlio Ad-daliad oddi ar y we. Os nad oes gennych chi argraffydd, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000 i ofyn am gopi o’r ffurflen. Cofiwch ddarllen y nodiadau a ddaw gyda’r ffurflen, a llenwi pob adran. Yna, anfonwch y ffurflen at Reolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau lle gwnaethoch eich cais.

Beth mae'r ffi yn ei gynnwys

Nid yw’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n gwneud elw. Mae’r ffioedd pasbort yn talu am gostau darparu gwasanaethau pasbort yn y DU. Gelwir rhan o’r ffi yn ‘bremiwm is-genhadaeth’. Mae'n talu am y costau o ddarparu'r cymorth sydd ar gael gan is-genhadon i ddinasyddion Prydeinig sy'n canfod eu hunain mewn trafferthion dramor.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Allweddumynediad llywodraeth y DU