Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Amserlen ar gyfer ceisiadau am basbort

Peidiwch â'i gadael tan y funud olaf cyn adnewyddu eich pasbort: gwnewch gais yn gynnar pryd bynnag y bo modd gwneud hynny. Yn ystod yr haf (y cyfnod mwyaf prysur ar gyfer ceisiadau am basport) dylech ganiatáu o leiaf dair wythnos i basportau sydd wedi cael eu hadnewyddu gyrraedd. Gallwch drosglwyddo hyd at naw mis o ddilysrwydd o'ch hen basbort i'ch pasbort newydd.

Pryd y dylech wneud cais

Ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n gyfrifol am gostau am deithiau sydd wedi cael eu harchebu pan nad oes pasbort dilys gennych

Gallwch wneud cais i adnewyddu eich pasbort os oes naw mis neu lai cyn iddo ddod i ben. Mae hefyd yn werth cofio'r canlynol:

  • bydd yr IPS yn ychwanegu'r amser sy'n weddill (hyd at naw mis) at eich pasbort 10 mlynedd newydd
  • mae rhai gwledydd yn gofyn am chwe mis o ddilysrwydd ar eich pasbort
  • ni ddylech drefnu i deithio oni bai bod eich pasbort yn ddilys

Ni ellir rhoi ad-daliad am yr amser sy'n weddill ar basbort heb ei ddefnyddio.

Yr amser y mae'n ei gymryd: canllaw ar gyfer ceisiadau arferol

Mae'r amser y mae'n ei gymryd i brosesu cais am basbort yn dibynnu ar y canlynol:

  • pa mor brysur yw'r IPS - y cyfnod o fis Ebrill i fis Medi yw'r cyfnod prysuraf
  • pa wasanaeth rydych yn ei ddefnyddio
  • p'un a yw eich cais wedi'i gwblhau'n gywir
  • p'un a ydych wedi darparu'r dogfennau cywir
  • p'un a oes angen i'r IPS gysylltu â'r person a gydlofnododd eich cais

Bydd defnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon yn:

  • cymryd o leiaf bythefnos (ni ellir gwarantu hyn) ond dylech ganiatáu mwy o amser rhag ofn y bydd angen i'r IPS gysylltu â chi neu gyd-lofnodwr am wybodaeth ychwanegol
  • eich helpu i leihau nifer y gwallau ond cofiwch y gall fod angen i'r IPS gysylltu â chi am fwy o wybodaeth o hyd

Bydd defnyddio'r gwasanaeth post yn:

  • cymryd o leiaf dair wythnos (ni ellir gwarantu hyn) ond dylech ganiatáu mwy o amser rhag ofn y bydd angen i'r IPS gysylltu â chi neu gyd-lofnodwr am wybodaeth ychwanegol
  • dylech ystyried defnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon gan y bydd yn eich helpu i leihau nifer y gwallau, ond cofiwch y gall fod angen i'r IPS gysylltu â chi am fwy o wybodaeth o hyd

Yn achos unigolion sy'n gwneud cais am y tro cyntaf:

  • bydd yn cymryd o leiaf chwe wythnos (ni ellir gwarantu hyn) ond dylech ganiatáu mwy o amser rhag ofn y bydd angen i'r IPS gysylltu â chi neu gyd-lofnodwr am wybodaeth ychwanegol
  • bydd defnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon yn eich helpu i leihau nifer y gwallau
  • yn ystod cyfnodau prysur, efallai na fydd apwyntiadau ar gael ar adeg neu mewn man delfrydol bob amser a gall hyn oedi eich cais

Ceisiadau brys

Mae gwasanaeth un wythnos Llwybr Carlam a gwasanaeth un diwrnod Premiwm ar gael yng Nghanolfannau Gwasanaeth Cwsmeriaid yr IPS ar gyfer rhai mathau o geisiadau. I drefnu apwyntiad, ffoniwch y Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000. Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am ac 8.00pm, a rhwng 9.00am a 5.30pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus.

Yn ystod cyfnodau prysur, efallai na fydd yn bosibl cael apwyntiad ar fyr rybudd, felly dylech ganiatáu o leiaf bythefnos.

Dim ond pan fydd yr IPS wedi asesu eich cais yn llwyddiannus, gan gynnwys cadarnhau'r manylion a roddwyd gennych a chysylltu â'ch cyd-lofnodwr y gellir gwarantu'r gwasanaethau hyn.

Cofiwch, ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n gyfrifol am gostau am deithiau sydd wedi cael eu harchebu pan nad oes pasbort dilys gennych.

Uwchraddio eich cais os bydd eich cynlluniau'n newid yn sydyn

Os bydd eich cynlluniau teithio yn newid ar ôl i chi wneud cais am basbort, gallwch wneud cais i uwchraddio i'r gwasanaeth un diwrnod Premiwm (yn achos ceisiadau i adnewyddu pasbort yn unig). I wneud cais i uwchraddio, ffoniwch y Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000.

Bydd angen rhif cod bar eich cais arnoch. Os gwnaethoch ddefnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon neu wneud cais yn bersonol mewn swyddfa basbort, bydd y rhif hwn ar eich derbynneb.

Efallai na fydd modd uwchraddio bob amser yn ystod cyfnodau prysur.

Dylech ganiatáu mwy o amser ar gyfer pasbortau cyntaf i oedolion

Ar gyfer eich pasbort cyntaf fel oedolyn, bydd angen i chi ganiatáu mwy o amser nag yn y gorffennol, oherwydd bydd yn rhaid i chi fynd i gyfweliad fel arfer. Gweler y dolenni ynglŷn â chyfweliadau Pasbort isod am fwy o wybodaeth.

Cyflwynwch eich cais chwe wythnos cyn bod angen i chi deithio. Peidiwch â threfnu i deithio hyd nes y byddwch yn cael eich pasbort newydd.

Sut y caiff eich pasbort ei ddosbarthu

Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff eich pasbort newydd ei ddosbarthu gan DX Secure (ar ran yr IPS) rhwng 8.00am a 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Mewn ardaloedd lle ceir risg isel o golli eitemau yn y post, caiff eich pasbort ei ddosbarthu drwy wasanaeth Recorded Delivery y Post Brenhinol.

Llofnodi ar gyfer eich pasbort

Ni fydd angen llofnod ar DX Secure fel arfer. Bydd y dosbarthwr yn tynnu llun o'r eiddo lle dosbarthwyd y pasbort ac yn cofnodi'r manylion dosbarthu. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd, bydd angen i chi lofnodi ar gyfer eich pasbort. Os na fyddwch gartref, bydd DX Secure yn gadael cerdyn sy'n egluro sut y gallwch wneud y canlynol:

  • trefnu i'ch pasbort gael ei ailddosbarthu ar amser penodol - bydd y gost o wneud hyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw
  • trefnu i'ch pasbort gael ei ailddosbarthu unrhyw bryd ar ddiwrnod penodol - ni chodir tâl am wneud hyn
  • casglu eich pasbort o un o fannau casglu DX Secure
  • casglu eich pasbort o swyddfa basbort

Os caiff eich pasbort ei ddosbarthu gan y Post Brenhinol, bydd angen llofnod ar y postmon. Os na fyddwch gartref, bydd yn gadael cerdyn sy'n egluro sut i drefnu i'ch pasbort gael ei ailddosbarthu neu ei gasglu o'r swyddfa ddidoli leol. Dylech wneud trefniadau'n gyflym, oherwydd caiff eich pasbort ei ddychwelyd i'r IPS ar ôl saith diwrnod.

Dychwelyd eich dogfennau ategol

Caiff eich dogfennau ategol eu dychwelyd atoch ar wahân drwy'r post ail ddosbarth arferol. Gan fod y dogfennau hyn yn werthfawr, mae IPS yn argymell y dylech dalu ffi ychwanegol o £3.00 iddynt gael eu dychwelyd drwy wasanaeth Secure Delivery.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Allweddumynediad llywodraeth y DU