Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch mewn tywydd eithafol

Gall gyrru fod yn fwy anodd mewn tywydd eithafol ac ar ffyrdd rhewllyd, yn enwedig yn ystod y gaeaf. Drwy ddilyn cyngor yr Asiantaeth Priffyrdd, gallwch helpu i wneud eich taith yn fwy diogel a lleihau oedi i bawb.

Bod yn barod am dywydd gwael

Sicrhewch na chewch eich dal allan pan fydd tywydd garw’n dod.

Rhoi gwasanaeth i’ch cerbyd

Gallwch leihau’r siawns y bydd eich cerbyd yn torri lawr drwy roi gwasanaeth i’ch cerbyd yn rheolaidd.

Dylech hefyd wneud y pethau canlynol:

  • gwneud yn siŵr bod digon o wrthrewydd a hylif golchi sgrin yn y car
  • edrych am draul ar lafnau sychwyr (newidiwch nhw cyn gynted ag y byddant yn dechrau baeddu’r ffenestri yn hytrach na’u glanhau)
  • sicrhau bod eich batri wedi’i wefru yn llawn (mae batris yn para rhwng dwy a phedair blynedd – newidiwch eich batri os nad yw bellach yn ddibynadwy)
  • cadw gwasgedd y teiars ar y lefel a argymhellir gan y gwneuthurwr, a sicrhau bod gennych o leiaf 3 milimetr o wadn
  • glanhau baw a hylifau sydd wedi cael eu chwistrellu ar eich car oddi ar lampau a sicrhewch fod pob bwlb yn gweithio

Cario pecyn argyfwng

Dylai pecyn sylfaenol gynnwys:

  • map
  • gwifrau cyswllt (jump leads) ar gyfer batri’r car
  • tortsh
  • triongl rhybuddio
  • crafwr rhew a hylif meirioli (de-icer)
  • pecyn cymorth cyntaf
  • dillad cynnes

Os ydych chi’n cynllunio taith hir neu os yw rhagolygon y tywydd yn addo tywydd garw, efallai y byddwch am ychwanegu'r pethau canlynol:

  • rhaw (os oes posibilrwydd o eira)
  • pâr o esgidiau cynnes
  • blanced
  • unrhyw feddyginiaeth y mae angen i chi ei chymryd yn rheolaidd
  • bwyd a fflasg o ddiod boeth

Byddai sbectol haul yn ddefnyddiol hefyd, oherwydd llacharedd yr eira.

Cynllunio eich taith a chael gwybod am gyngor ynghylch y tywydd a theithio

Gofynnwch i’ch hun a oes wirioneddol angen teithio arnoch neu os allwch chi ohirio eich taith nes mae’r tywydd yn gwella.

Os oes yn rhaid i chi deithio, cynlluniwch eich taith yn ofalus.

Cyn cychwyn, gwnewch y canlynol:

  • edrychwch ar wybodaeth fyw am draffig ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod neu drwy ffonio gwasanaeth gwybodaeth fyw am draffig yr Asiantaeth Priffyrdd ar 08700 660 115 (Lloegr yn unig) – byddwch yn barod i ohirio eich taith neu i newid eich llwybr os bydd angen
  • cynlluniwch eich llwybr, gan gynnwys seibiau mewn ardaloedd gwasanaethau os ydych yn mynd ar daith hir ar y draffordd

Wrth i chi deithio, gwnewch y canlynol:

  • gwrandewch ar newyddion teithio ac ar ragolygon y tywydd ar radio lleol (os oes gennych chi radio digidol, gwrandewch ar Traffic Radio)
  • gallwch gael gwybod am gyflwr y ffordd o’ch blaen drwy ddefnyddio Pwyntiau Gwybodaeth am Draffig yr Asiantaeth Priffyrdd mewn ardaloedd gwasanaethau a lleoliadau eraill

Gyrru addas ar gyfer y tywydd a chyflwr y ffordd

Pellteroedd stopio

Ar ffyrdd llithrig, gall gymryd hyd at ddeg gwaith yn fwy o amser i chi stopio - gyrrwch yn arafach ac yn ofalus, hyd yn oed os yw ffyrdd wedi cael eu graeanu

Pan fydd y tywydd yn arw iawn, dim ond os oes gwir angen gyrru arnoch y dylech wneud hynny – fel arall, efallai y byddai’n well os byddech yn gohirio eich taith nes bydd y tywydd yn gwella.

Hyd yn oed ar ôl i ffyrdd gael eu trin yn y gaeaf, mae’n bosib y bydd yr amgylchiadau gyrru yn parhau i fod yn heriol – yn enwedig os bydd risg uchel o rew. Cofiwch fod rhew yn ffurfio’n fwy rhwydd ar y canlynol:

  • ffyrdd bryniog neu agored
  • ffyrdd sy’n mynd dros bont neu o dan bont
  • ffyrdd sy’n cael eu cysgodi gan goed neu adeiladau

Dechrau sgidio

Os byddwch yn dechrau sgidio:

  • gwasgwch y cydiwr (clutch)
  • llywiwch i mewn i’r sgid
  • wrth i chi sythu, llywiwch yn ôl ar hyd y ffordd

Peidiwch â gadael i’r gaeaf eich gwneud yn yrrwr gwael – edrychwch yn Rheolau'r Ffordd Fawr i gael gwybodaeth ynghylch 'Gyrru pan fydd y tywydd yn wael'. Mae’r adran hon o Reolau’r Ffordd Fawr yn trafod gyrru yn y tywydd canlynol:

  • tywydd gwlyb
  • tywydd rhewllyd ac eira
  • tywydd gwyntog
  • niwl
  • tywydd poeth

Gallwch hefyd ddarllen cyngor gan yr Asiantaeth Priffyrdd ynghylch gyrru pan fydd y tywydd yn wael.

Os aiff pethau o chwith

Ni waeth pa mor ofalus rydych yn cynllunio eich taith, gall pethau fynd o chwith. Gall damwain neu dywydd gwael olygu bod ffordd wedi'i chau am sbel.

Os ydych chi ar ran o draffordd sydd wedi’i chau

Os ydych chi ar ran o draffordd sydd wedi’i chau, arhoswch yn y car a gwrandewch ar newyddion traffig. Mae’r Asiantaeth Priffyrdd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i orsafoedd radio lleol. Gallwch ddod o hyd i newyddion traffig drwy bwyso ‘TA’ ar eich radio.

Os ydych chi mewn ciw ar y ffordd

Os ydych chi mewn ciw ar y ffordd, edrychwch ar yr arwyddion negeseuon electronig i gael cyfarwyddiadau a gwybodaeth amser real.

Os oes digwyddiad ar y ffordd

Os oes digwyddiad ar y ffordd sy’n golygu na all traffig symud, bydd Swyddogion Traffig yr Asiantaeth Priffyrdd neu staff yr Uned Cymorth adeg Digwyddiadau yn dod i'r fan i roi cynlluniau argyfwng ar waith. Dylech aros yn y car a dilyn eu cyfarwyddiadau.

Additional links

Gyrrwch yn ofalus

Gallai’r tywydd ac amodau’r ffyrdd newid, felly gyrrwch yn ofalus

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Hyfforddiant achlysurol CPC i yrwyr

Os ydych chi’n yrrwr bws, bws moethus neu lori proffesiynol, bydd angen i chi ddilyn 35 awr o hyfforddiant achlysurol

Allweddumynediad llywodraeth y DU