Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch cynlluniau pensiwn y gweithle

Mae eich pensiwn y gweithle wedi'i ddiogelu. Bydd sut y caiff eich pensiwn ei ddiogelu yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych. Mynnwch wybod sut y gall gwerth pensiwn ostwng yn ogystal â chynyddu a beth fydd yn digwydd os bydd eich cyflogwr yn mynd yn fethdalwr.

Pensiynau a risg

Nid oes unrhyw gynilion, gan gynnwys pensiynau, byth yn gwbl ddi-risg. Mae nifer o reolaethau ar waith i leihau'r risgiau. Mae hyn yn golygu bod eich arian yn fwy diogel.

Nid oes ateb perffaith o ran ble y dylech fuddsoddi eich arian ar gyfer y dyfodol. Mae pob math o gynllun cynilo a buddsoddi yn gweithio'n wahanol ac mae gan bob math o gynllun ei fanteision a'i anfanteision. Ond i'r rhan fwyaf o bobl, mae'n well gwneud rhywbeth, fel talu i mewn i bensiwn y gweithle, na gwneud dim byd.

Mae dau brif fath o gynlluniau pensiwn y gweithle: cynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig a chynlluniau pensiwn budd diffiniedig.

All gwerth pensiwn ostwng yn ogystal â chynyddu dros y blynyddoedd?

Mewn cynlluniau pensiwn y gweithle cyfraniadau diffiniedig, pennir eich cronfa bensiwn gan y cyfraniadau y byddwch chi a'ch cyflogwr yn eu gwneud, a pherfformiad buddsoddiadau.

Mae gwahanol fathau o fuddsoddiadau ac mae eu gwerthoedd yn cynyddu ac yn gostwng dros amser, megis cyfranddaliadau. Dros yr hirdymor, bydd y buddsoddiadau hyn fel arfer yn rhoi gwell elw na chyfrif cynilo. Er y gall gwerthoedd buddsoddiad ostwng, mae'n debygol y byddant yn adfer yn y tymor hwy.

Wrth i chi ddynesu at yr oedran ymddeol arferol ar gyfer eich pensiwn, gallwch ofyn i'ch darparwr pensiwn symud eich arian yn raddol. Bydd yn ei symud i fuddsoddiadau lle ceir llai o debygolrwydd y bydd y gwerth yn gostwng yn y byrdymor. Gelwir hyn weithiau yn 'addasu i ffordd o fyw' ('lifestyling' yn Saesneg). Bydd rhai cynlluniau pensiwn yn gwneud hyn yn awtomatig. Gallwch ofyn i'ch darparwr a fydd hyn yn berthnasol i'ch cynllun chi.

Mewn cynlluniau pensiwn y gweithle budd diffiniedig, bydd y swm a gewch pan fyddwch yn ymddeol yn dibynnu ar:

  • faint o flynyddoedd y buoch yn aelod o'r cynllun pensiwn
  • eich enillion
  • y gyfradd y mae buddiannau yn cronni o dan reolau eich cynllun

Beth sy'n digwydd i'ch pensiwn os bydd eich cyflogwr yn mynd yn fethdalwr

Os oes gennych bensiwn y gweithle cyfraniadau diffiniedig, bydd pwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn yn gofalu am eich cronfa bensiwn. Fel arfer, darparwr pensiwn fydd yn gwneud hyn, felly os bydd eich cyflogwr yn mynd yn fethdalwr, ni fyddwch yn colli eich cronfa bensiwn.

Os na all darparwr pensiwn dalu, mae nifer o sefydliadau a allai eich helpu. Er enghraifft, os oedd y darparwr wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, gall Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS) ddarparu iawndal. Bydd hyn yn digwydd yn gyffredinol am fod y darparwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu a/neu nad yw'n gallu talu ei ddyledion. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol.

Os caiff eich cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig ei gynnal gan eich cyflogwr (ar sail 'ymddiriedolaeth') ac y bydd yn mynd yn fethdalwr, mae'n bosibl y bydd eich cronfa bensiwn yn llai na'r disgwyl oherwydd os bu eich cyflogwr yn talu costau gweinyddu'r cynllun pensiwn, ni fydd yn gwneud hynny mwyach. Byddai'r costau hyn bellach yn cael eu talu o gronfeydd pensiwn aelodau'r cynllun.

Gelwir y math yma o bensiwn yn gynllun pensiwn y gweithle Cyfraniadau Diffiniedig 'ar sail Ymddiriedolaeth'. Gelwir y math arall (a gaiff ei gynnal gan ddarparwr pensiwn) yn gynllun pensiwn y gweithle Cyfraniadau Diffiniedig 'ar sail Contract'. Os byddwch am wybod pa fath o gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig rydych yn aelod ohono, cysylltwch â phwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn.

Os oes gennych gynllun pensiwn y gweithle budd diffiniedig, mae'n ofynnol i'ch cyflogwr sicrhau bod gan ei gynllun ddigon o arian i dalu pensiynau'r gweithwyr.
Sefydlwyd y Gronfa Diogelu Pensiynau ym mis Ebrill 2005 i'ch diogelu os bydd eich cyflogwr yn mynd yn fethdalwr ac na fydd digon o arian yn y cynllun pensiwn i dalu'r pensiwn a addawyd.

I bobl sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn eu cynllun, bydd y Gronfa Diogelu Pensiynau yn gyffredinol yn talu iawndal o 100 y cant. I'r rhan fwyaf o bobl islaw'r oedran pensiwn, bydd y Gronfa Diogelu Pensiynau yn gyffredinol yn talu iawndal o 90 y cant.

I gael rhagor o fanylion am iawndal, ewch i wefan y Gronfa Diogelu Pensiynau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU