Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Amgylchiadau arbennig a'ch pensiwn y gweithle

Gall y broses o'ch cofrestru ar gyfer pensiwn y gweithle fod yn wahanol gan ddibynnu ar eich amgylchiadau o ran cyflogaeth. Dyma rai enghreifftiau.

Absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb gofalwyr

Os ydych yn cael tâl mamolaeth, tâl mabwysiadu neu dâl gofalwyr o dros £8,105 y flwyddyn, ac rydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, yna byddwch yn cael eich cofrestru ar gyfer pensiwn yn y gweithle o hyd.

Gwaith asiantaeth

Os ydych yn gweithio drwy asiantaeth, bydd yr asiantaeth sy'n talu eich cyflog yn eich cofrestru ar gyfer pensiwn yn y gweithle, os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Gall yr asiantaeth ddewis aros tri mis cyn eich cofrestru.

Os bydd eich asiantaeth yn gohirio'r broses, rhaid iddi eich hysbysu'n ysgrifenedig. Os hoffech ymuno â chynllun pensiwn eich gweithle yn y cyfamser, rhaid iddi dderbyn eich cais.

Sawl cyflogwr

Os ydych yn gweithio i sawl cyflogwr gwahanol byddwch yn cael eich cofrestru ar gyfer pensiwn pob cyflogwr rydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar ei gyfer yn awtomatig. Os felly, gallwch ymuno â sawl pensiwn gwahanol. Os ydych yn ennill llai na £8,105 y flwyddyn gyda chyflogwr ni fyddwch yn cael eich cofrestru ar gyfer pensiwn yn achos y swydd honno.

Cael eich cyflogi ar gontract byrdymor

Os ydych yn cael eich cyflogi ar gontract byrdymor ac rydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, gallwch ymuno â phensiwn yn y gweithle o hyd. Gall eich cyflogwr ddewis gohirio'r dyddiad y mae'n eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle. Mae hyn yn golygu y gall eich contract ddod i ben cyn i chi gael eich cofrestru. Os byddwch am ymuno tra byddwch yn cael eich cyflogi yno, gallwch wneud hynny o hyd. Bydd angen i chi ysgrifennu at eich cyflogwr i ofyn am gael eich cofrestru.

Aelodau o'r lluoedd arfog

Os ydych yn aelod gweithredol o'r lluoedd arfog, ni fyddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle. Bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn parhau i wneud trefniadau pensiwn i chi. Mae hyn yn cynnwys aelodau o'r Cadetiaid Cyfun, Cadetiaid y Môr, Cadetiaid y Fyddin a'r Corfflu Hyfforddiant Awyr.

Cyflogwr tramor

Os ydych yn gweithio yn y DU i gyflogwr sydd wedi'i gofrestru dramor, efallai y bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru ar gyfer pensiwn yn y gweithle yn awtomatig.

Efallai na fydd eich cyflogwr yn ymwybodol o'r gyfraith newydd hon yn y DU. Efallai y bydd angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr am ei rwymedigaeth i'ch cofrestru ar gyfer pensiwn.

Rhaid i gyflogwyr eich cofrestru ar gyfer pensiwn sy'n cyrraedd safonau llywodraeth y DU, yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir. Yna caiff ei reoleiddio gan y DU.

Swydd-ddeiliaid

Ni chaiff swydd-ddeiliaid eu cofrestru ar gyfer pensiwn yn y gweithle yn awtomatig, oherwydd at ddibenion pensiwn, nid ydynt wedi'u dosbarthu yn gyflogeion.

Fodd bynnag, os oes gennych gontract cyflogaeth, er enghraifft rydych yn Gaplan Carchar, byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle. Bydd hyn yn digwydd cyn belled â'ch bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Morwyr

Os ydych yn gweithio ar long neu hofranlong ac yn gymwys, byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle. Ond rhaid i'ch cyflogwr fod yn fodlon eich bod yn gweithio, neu'n gweithio fel arfer, yn y DU. Os ydych yn bysgotwr cyfran ni fyddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle, gan eich bod yn hunangyflogedig. Noder bod y cynigion hyn yn amodol ar gymeradwyaeth ar hyn o bryd.

Gweithwyr ar y môr

Byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle os ydych yn gymwys ac yn gweithio ar un o'r canlynol:

  • môr tiriogaethol y DU
  • sgafell gyfandirol y DU
  • sector o faes trawsffiniol sy'n eiddo i'r DU

Noder bod y cynigion hyn yn amodol ar gymeradwyaeth ar hyn o bryd.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU