Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pwy gaiff wneud cais am basbort oedolyn cyntaf a phryd

Yma, cewch wybod pwy gaiff wneud cais am basbort oedolyn cyntaf a faint o amser y mae'n ei gymryd i wneud hynny. Erbyn hyn, mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad gyda'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Dylech ganiatáu hyd at chwe wythnos i'ch pasbort gyrraedd.

Pwy all wneud cais?

Dinasyddiaeth

Gallwch wneud cais am eich pasbort oedolyn cyntaf os ydych yn 16 oed neu'n hŷn ac yn un o'r canlynol:

  • Dinesydd Prydeinig
  • Dinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain
  • Deiliad Prydeinig
  • Dinesydd Prydeinig (dramor)
  • Unigolyn wedi'i warchod gan Brydain

Gall y rheolau fod yn gymhleth a gallwch weld gwybodaeth fanylach am bob categori yn 'Grwpiau cenedligrwydd sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig'.

Os nad ydych yn siŵr am genedligrwydd a dinasyddiaeth Brydeinig fe gewch fwy o wybodaeth ar wefan Asiantaeth Ffiniau’r DU.

Pryd i wneud cais

Yr amser gorau i wneud cais

Dylech ganiatáu o leiaf chwe wythnos i'ch pasbort oedolyn cyntaf gyrraedd. Os nad ydych wedi cael pasbort Prydeinig erioed naill ai fel plentyn neu fel oedolyn, yna bydd angen cyfweliad arnoch

Os ydych yn gwneud cais am eich basbort oedolyn cyntaf, dylech wneud cais o leiaf chwe wythnos cyn yr ydych am deithio. Ni chewch ddefnyddio’r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym na'r gwasanaeth undydd Premiwm. Y rheswm am hyn yw, yn ogystal â llenwi’r ffurflen, bydd angen i chi gael cyfweliad fel rhan o'r broses ymgeisio. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n cysylltu â chi i drefnu cyfweliad ar ôl iddynt dderbyn a gwirio eich cais.

Os oedd gennych eich pasbort Prydeinig eich hun yn blentyn ni fydd angen i chi fynd i gyfweliad, gan y caiff eich cais ei gyfrif fel cais i adnewyddu.

Pasbort pobl ifanc a phasbort oedolyn

Cais i berson ifanc dros 16 oed

Pan fydd plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 16 oed caiff wneud cais am ei basbort oedolyn cyntaf os yw un o'r canlynol yn wir:

  • nid yw erioed wedi cael pasbort plentyn
  • nid oedd ganddo basbort plentyn ond roedd yn hytrach wedi'i gynnwys ar basbort un o'i rieni

Os oes ganddo basbort plentyn caiff barhau i'w ddefnyddio nes bydd yn dod i ben. Pan fydd angen pasbort newydd arno dylai wneud cais i adnewyddu pasbort oedolyn.

Cais i berson ifanc dan 16 oed

Os ydych yn gwneud cais ar gyfer unigolyn dan 16 oed, dylech wneud cais am basbort plentyn (sy'n ddilys am bum mlynedd). Ond os yw'r plentyn yn debygol o gael ei ben-blwydd yn 16 oed cyn i'r pasbort gyrraedd dylech wneud y canlynol:

  • gwneud cais fel petaent yn 16 oed
  • anfon y ffi ar gyfer pasbort deg-mlynedd i oedolion i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau

Pobl nad ydynt yn preswylio yn y DU a’r rheini sydd y tu allan y DU dros dro

Os nad ydych yn byw yn y DU, gallwch chi'n bersonol wneud cais i adnewyddu eich pasbort tra byddwch yn ymweld â'r DU.

Ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau dderbyn ceisiadau sydd wedi'u hanfon o dramor. Os ydych chi am adnewyddu neu wneud cais am Basbort Prydeinig eich plentyn tra'ch bod yn byw dramor, rhaid i chi gysylltu â’ch is-genhadaeth, eich uchel gomisiwn neu eich llysgenhadaeth leol.

Y camau nesaf - pasbort oedolyn cyntaf

I gael ffurflen gais, gweld beth yw'r ffi a chael gwybod pa ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod.

Gwneud nodyn o rif y cod bar ar eich cais

Sicrhewch eich bod chi’n gwneud nodyn o rif y cod bar ar eich cais cyn i chi anfon eich cais i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau drwy’r post. Bydd angen hwn arnoch os ydych am wneud ymholiadau ynghylch eich cais neu ddilyn hynt eich cais.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas neu farwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU