Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y ffurflen gais, y ffi a'r dogfennau ategol ar gyfer adnewyddu pasbort oedolyn

Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau un ffurflen safonol ar gyfer pob math o geisiadau unigol am basbortau, gan gynnwys adnewyddu pasbortau. Bydd cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen, p'un ai'r fersiwn bapur ynteu'r fersiwn ar-lein y byddwch yn ei llenwi. Yma, cewch wybod sut mae cael y ffurflen a faint yw'r ffi a pha ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu hanfon.

Faint mae'n gostio i adnewyddu pasbort oedolyn

Cost adnewyddu pasbort 32 tudalen deg-mlynedd oedolyn yw:

  • £72.50 am wasanaeth safonol
  • £103.00 am y Gwasanaeth wythnos Trac Cyflym
  • £128.00 am y gwasanaeth undydd Premiwm

Os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny, cewch eich pasbort am ddim, ond bydd angen i chi dalu'r ffi ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth Trac Cyflym neu'r gwasanaeth Premiwm os byddwch yn eu defnyddio.

Gallwch gael gwybodaeth fanwl yn yr adran 'Ffioedd pasbort, faint o amser mae'n gymryd a cheisiadau pasbort brys'.

Y ffurflen gais

Sut i'w chael

Mae pedair ffordd y gallwch gael y ffurflen gais. Gallwch:

  • llenwi'r ffurflen gais ar-lein, os felly bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argraffu'r ffurflen wedi'i llenwi ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r dogfennau ategol
  • ei chasglu o gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon
  • gofyn am ffurflen gais ar-lein a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn anfon un atoch drwy'r post - gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i gyrraedd
  • ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000 a gofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau anfon un atoch drwy'r post - gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i gyrraedd

Pwy ddylai ei llofnodi

Fel arfer, dim ond chi fydd angen ei llofnodi os ydych yn gwneud cais i adnewyddu eich pasbort.

Fodd bynnag, os ydych yn edrych yn wahanol iawn i'r llun yn eich pasbort cyfredol neu'ch pasbort diwethaf, dylech gael rhywun i adlofnodi eich ffurflen yn adran 10.

Mae'n rhaid i'r unigolyn y byddwch yn gofyn iddo adlofnodi fod yn rhywun sydd wedi eich adnabod am o leiaf dwy flynedd. Mae'n rhaid iddynt:

  • fod dros 18
  • bod â phasbort Prydeinig neu Wyddelig cyfredol
  • fod yn fodlon ysgrifennu eu rhif pasbort ar y ffurflen

Dylent fod yn gweithio mewn proffesiwn cydnabyddedig neu fel arall fod ag enw da yn y gymuned. Fe welwch restr o broffesiynau addas drwy ddilyn y ddolen isod i 'Pwy gaiff adlofnodi eich cais?'

Dylech ofyn i'r un person ardystio un o'ch lluniau. Maent yn gwneud hyn drwy ysgrifennu ar gefn y llun:

  • 'Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i [Miss, Mr, Mrs, Ms neu deitl arall a'ch enw llawn]'

Rhaid iddynt hefyd lofnodi a dyddio'r datganiad.

Y dogfennau ategol

Ar wahân i'r ffurflen gais wedi'i llenwi a dau lun diweddar union yr un fath ohonoch, yr unig ddogfennau ategol y mae angen i chi eu hanfon yw eich pasbort cyfredol neu'ch pasbort diwethaf.

Beth fydd yn digwydd i'ch hen basbort?

Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn diddymu eich hen basbort pan roddir un newydd i chi. Ni chewch ddefnyddio'r hen basbort, ond bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei ddychwelyd atoch oni fydd wedi cael ei ddifetha neu ei newid. Yn yr achosion hyn, caiff ei ddinistrio ac ni chaiff ei ddychwelyd atoch.

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn eich cynghori i lungopïo'r holl dudalennau perthnasol sy'n dangos stampiau a fisas. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol os bydd angen rhai newydd arnoch.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU